Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2018
Amser:
08.30 -
08.58
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd yn galw Aelod o bob plaid i siarad ar ddatganiad ymddiswyddo'r Prif Weinidog. Hefyd, soniodd y Llywydd am y posibilrwydd o alw Andrew RT Davies a Leanne Wood fel cyn-arweinwyr plaid a wasanaethodd am gyfran sylweddol o gyfnod y Prif Weinidog yn y swydd, yn ogystal ag un Aelod hirdymor arall o'r blaid Lafur, petai'r Aelodau hynny yn dymuno siarad.
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar fusnes y Llywodraeth ar ôl eitem 5 (Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), a chynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar fusnes y Cynulliad cyn y ddadl fer.
Mae Arweinydd y Tŷ wedi datgan y bydd y llywodraeth yn aildrefnu dadl Cyfnod 3 ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru). Cytunodd i ailystyried 29 Ionawr fel y dyddiad arfaethedig oherwydd y gwrthdaro â Chyfnod 2 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, ond cadarnhaodd nad oedd yn opsiwn ei chynnal yn gynt.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 23 Ionawr 2019 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru (60 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Gwrthododd y Rheolwyr Busnes y cais.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cytunodd Rheolwyr Busnes ar y dyddiadau arfaethedig.